Sparta
Oddi ar Wicipedia
Roedd Sparta (Groeg: Σπάρτη [Sparte]), neu Lacedaimon (Groeg: Λακεδαιμων [Lakedaimon]) yn ddinas-wladwriaeth yng Ngwlad Groeg yr Henfyd. "Sparta" oedd enw'r ddinas ei hun, a "Lacedaimon" neu "Laconia" enw y ddinas-wladwriaeth, ond yn aml defnyddir y ddau enw fel pe baent yn gyfystyr. Erbyn hyn mae Sparta yn enw y dref a saif gerllaw safle'r hen ddinas.
Saif Sparta ar benrhyn y Peloponese, gerllaw Afon Eurotas. Sefydlwyd y ddinas ar ôl concwest Mesenia gan drigolion Laconia rhwng 730 CC. a 710 CC.. Doriaid oedd y trigolion yn y cyfnod hanesyddol. Tyfodd y ddinas yn raddol, yn enwedig ar ôl y newidiadau a gyflwynwyd gan Licurgus yn y seithfed ganrif CC.. Amcan y newidiadau oedd cryfhau Sparta yn filwrol, ac ystyrid mai gan Sparta yr oedd y fyddin gryfaf o ddinas-wladwriaethau Groeg.
Ymhlith yr enwocaf o frwydrau Sparta mae Brwydr Thermopylae yn 480 CC., pan laddwyd 300 o Spartiaid dan eu brenin Leonidas, ynghyd a 700 o Thesbiaid, wrth amddiffyn bwlch Thermopylae yn erbyn byddin enfawr Ymerodraeth Persia dan y brenin Xerxes. Y flwyddyn ganlynol gorchfygwyd y Persiaid yn derfynol ym Mrwydr Platea gan fyddin o Roegiaid dan arweiniad Pausanias, brenin Sparta.
Wedi gorfchfygu'r Persiaid, roedd grym cynyddol Athen yn bryder i'r Spartiaid a'u cyngheiriaid, yn enwedig Corinth. O ganlyniad dechreuodd Rhyfel y Peloponese, a barhaodd am dros ugain mlynedd. Yn 404 CC. bu raid i Athen ildio i Sparta a'i cyngheiriaid, ac am gyfnod nid oedd amheuaeth nad Sparta oedd y grym pennaf yng Ngroeg.
Yn 371 CC. gorchfygwyd y Spartiaid ym Mrwydr Leuctra gan fyddin Thebes dan eu cadfridog Epaminondas. Yn dilyn y frwydr yma, collodd Sparta ei safle fel dinas-wladwriaeth gryfaf Groeg. Yn 188 CC ymosododd Philopoemen, cadfridog Cynghrair Achaea, ar Laconia, dinistrio'r mur oedd wedi ei adeiladu o amgylch Sparta, a diddymu cyfraith Sparta gan roi'r gyfraith Achaeaidd yn ei lle.
Yn 192 CC ymatebodd Cynghrair Achaea i ymgais Sparta i adennill tiriogaethau coll trwy yrru llysgenhadaeth i Weriniaeth Rhufain. Yr un pryd ymosododd byddin Achaeaidd dan Philopoemen a llynges dan Tiso ar Gythium. Llwyddodd y Spartiaid i orchfygu'r llynges, ac wedi brwydr yn erbyn byddin Sparta tu allan i Gythium gorfodwyd Philopoemen i encilio i Tegea. Roedd ail ymosodiad Philopoemen ar Sparta yn fwy llwyddiannus; gorchfygodd fyddin Nabis, tyrannos Sparta. Apeliodd Nabis i Gynghrair Aetolia am gymorth, ond pan gyrhaeddodd 1,000 o ŵyr meirch Aetolaidd dan Alexamenus, llofruddiwyd Nabis a meddiannwyd Sparta gan yr Aetoliaid. Llwyddodd pobl Sparta i'w gorfodi i encilio o'r ddinas, ond manteisiodd Philopoemen a'r fyddin Achaeaidd ar y cyfle i gipio Sparta, a'i gorfodi i ymuno â Chynghrair Achaea. Daeth y cynghrair yn feistr ar y cyfan o'r Peloponnesos, a rhoddwyd diwedd ar annibynniaeth Sparta.