Steve Peat
Oddi ar Wicipedia
Manylion Personol | |
---|---|
Enw Llawn | Steve Peat |
Dyddiad geni | 17 Mehefin 1974 (33 oed) |
Gwlad | Lloegr Prydain Fawr |
Gwybodaeth Tîm | |
Disgyblaeth | Beicio Mynydd |
Rôl | Reidiwr |
Math o reidiwr | Lawr Allt |
Tîm(au) Proffesiynol | |
2002-2005 2006- |
Saracen MBUK GT Orange Santa Cruz Syndicate |
Prif gampau | |
Pencampwr y Byd x3 | |
Golygwyd ddiwethaf ar: | |
9 Hydref 2007 |
Beiciwr mynydd lawr allt proffesiynol Seisnig ydy Steve Peat (ganwyd 17 Mehefin 1974, Chapeltown, De Efrog). Cyn dechrau ei yrfa fel beiciwr proffesiynol, roedd Peat yn blymiwr llawn amser. Mae'n briod i Adele Croxon ac mae ganddynt fab, Jake Peat.
Dechreuodd Peat ei yrfa heb fawr o lwyddiant yn nhîm Saracen ynghyd â Rob Warner, cyn symyd i dîm MBUK yng nghanol yr 1990au. Reidiodd dros GT Bicycles tuag at ddiwedd yr 1990au cyn ymuno a thîm Orange rhwng 2002 a 2005. Mae eisioes wedi ymuno â thîm Santa Cruz Syndicate ar gyfer tymor 2006, arhosodd yn y tîm ar gyfer tymor 2007 hefyd.
Mae ei lwyddianau diweddar yn cynnwys dod yn ail ym Mhencampwriaethau Beicio Mynydd Lawr Allt y Byd yn 2000, 2001 a 2002, ac ennill y Pencampwriaethau yn 2002, 2004 a 2006.
Mae Peat hefyd yn ymwneud â dylunio a cynhyrchu dillad arbennig ar gyfer reidio i gwmni Royal Racing, mae Peat yn ranol berchen ar y cwmni. Mae Peat hefyd yn ymwneud â academiau ieuenctid yn y chwaraeon ac yn cefnogwr mawr o gael plant i ymwneud â'r chwaraeon.