STV
Oddi ar Wicipedia
STV yw'r enw a ddefnyddir gan y ddwy drwydded ITV yng Ngogledd a Chanolbarth yr Alban a adnabyddwyd gynt fel Grampian TV a Scottish TV. Mabwysiadwyd y brand ar Ddydd Mawrth 30 Mai 2006 gan ddisodli enwau'r ddwy fasnachfraint, yn debyg i'r hyn a wnaeth ITV1. Lluniwyd y brand newydd gan Elmwood Design sydd â swyddfa yn Nghaeredin. SMG plc sy'n berchen ar y ddwy fasnachfraint ac hefyd yn berchen ar frandiau eraill megis Virgin radio a Ginger Productions.
Lleolwyd stiwdios STV ar Stryd Renfield yn ardal Cowcaddens, Glasgow, ers ei sefydliad ym 1957, ond bellach wedi symud i rannu stiwdios newydd yn Pacific Quay ym mis Gorffennaf 2006 gyda BBC Scotland a'r Glasgow Science Centre. Lleolir stiwdio arall STV ar safle pwrpasog yn ardal Tullos yn Aberdeen. Mae gan STV ganolfannau darlledu eraill yng Nghaeredin, Dundee, Inverness a Stornoway.
[golygu] Dolenni Cyswllt
- (Saesneg) STV