Wicipedia:Sut i olygu tudalen
Oddi ar Wicipedia
Seilir y Wicipedia ar feddalwedd Wici sy’n galluogi unrhywun i olygu erthygl nad ydy o dan warchae. Ymddengys y newidiadau ar y ddalen yn syth.
Arbrofi:
Os ydych am arbrofi byddwch mor garedig a gwneud hynny yn y blwch tywod yn hytrach na fan hyn. Mewn rhai porwyr mae modd agor y bocs tywod mewn tab neu ffenestr arall er mwyn gallu gweld y dudalen hon a’r arbrofion yn y blwch tywod ar unwaith. I wneud hynny cliciwch i’r dde ar y cyswllt i’r blwch tywod a dewisiwch ‘Open in another window’.
Mae golygu tudalen Wici yn hawdd:
Cliciwch ar y tab ‘golygu’ ar ben y ddalen. O wneud hyn fe gyrhaeddwch y dudalen olygu. Ar y dudalen mae blwch testun ac ynddo’r testun ar ffurf y gellir ei olygu. Mae bar rholio ar ymyl dde y blwch testun i’ch helpu i ddod o hyd i’r man yn y testun y mae angen ei olygu. Wedi i chi orffen golygu yn y blwch testun symudwch i waelod y dudalen olygu trwy ddefnyddio’r bar rholio ar yr ymyl dde yn deg. Islaw y blwch testun daw blychau a botymau i’r golwg fel a ganlyn:
- blwch ‘crynodeb’ i’ch galluogi i nodi natur y golygiad, e.e. ychwanegu cyswllt, cam-sillafiad. Bydd hyn yn hwyluso gwaith defnyddwyr eraill.
- blwch ticio ‘Mae hwn yn olygiad bychan’. Gallwch ticio’r blwch os mai cywiro iaith neu camdeipio oedd natur y golygiad. Ni ddylid ticio’r blwch os oes rhyw newid yn y ffeithiau yn yr erthygl. Dim ond defnyddwyr sydd wedi mewngofnodi fydd yn gweld y blwch hwn.
- botwm ‘Gweler rhagolwg’. Cliciwch ar hwn ac mewn ychydig eiliadau bydd rhagolwg o’r dudalen orffenedig yn ymdangos ar ben uchaf y dudalen olygu, uwchben y blwch testun. Defnyddiwch y bar rholio ar yr ymyl dde yn deg i symud am lawr ar hyd y dudalen nes y dewch at y blwch testun eto, lle y gallwch barhau i olygu, ac islaw hwnnw at y botymau. Noder bod modd gosod dewisiadau defnyddiwr fel bod y rhagolwg yn ymddangos islaw y blwch testun yn hytrach nag uwch ei ben.
- blwch ticio ‘Gwylier y dudalen hon’. Ticiwch y blwch os am ychwanegu’r dudalen at eich rhestr gwylio. Dim ond defnyddwyr sydd wedi mewngofnodi fydd yn gweld y blwch hwn.
- botwm ‘dangos newidiadau’. O wasgu hwn fe welwch pa newidiadau yr ydych ar fin eu gwneud i’r fersiwn gynt.
- botwm ‘cadw’r dudalen’. Cliciwch y botwm pan yn fodlon ar y golygiad ac fe weithredir y newidiadau i’r erthygl o fewn eiliadau. Nid oes angen arwyddo’r golygiad i erthyglau arferol gan fod y meddalwedd yn cadw cofnod o bob newid yn awtomatig. Os symudwch o’r dudalen olygu i dudalen arall cyn gwasgu cadw’r dudalen fe gollwch y gwaith teipio a wnaethoch.
Mae tudalen sgwrs i bob erthygl ar gyfer sylwadau gan ddefnyddwyr eraill Wicipedia. Gallwch ymhelaethu ar y rheswm am eich golygiad ar y dudalen sgwrs trwy naill ai glicio ar y tab + neu ar y tab ‘golygwch’ uwchben y dudalen. Os y byddwch yn ychwanegu at y dudalen sgwrs, llofnodwch y darn os gwelwch yn dda, trwy ychwanegu 4 tilda ~~~~, neu yn ôl y canllawiau ar en:Wikipedia:Sign your posts on talk pages.
[golygu] Tips ar olygu erthyglau ar Wicipedia
Defnyddiwch safbwynt niwtral bob amser. Nid lle i hyrwyddo safbwynt bersonol yw Wicipedia. Ysgrifennwch fel petai’r wybodaeth yn ran o erthygl newyddion diduedd. Os ydych yn trafod pwnc dadleuol, gellir egluro y gwahanol safbwyntiau sydd yn bod, dim ond i chi beidio â chynnwys barn bersonol neu ddyfarniad ar gywirdeb rhyw safbwynt arbennig.
Cyfeiriwch at eich ffynonellau fel bod rhywrai eraill yn gallu gwiro neu ehangu eich gwaith. Mae nifer helaeth o erthyglau ar Wicipedia heb gyfeirnodion da arnynt ac mae yn cyfrannu at y feirniadaeth lymaf ar Wicipedia sef nad yw yn ffynhonell dibynadwy. Gallwch hwyluso’r gwaith golygu i eraill sy’n golygu eich cyfraniadau chi trwy ymchwilio ar y we ac ar bapur i ddarganfod cyfeirnodion ar gyfer eich erthygl. Yna cynhwyswch y cyfeirnodion hynny ar waelod yr erthygl, gyda nodyn byr yn cyfeirio at y cyfeirnod llawn yn y testun ei hunan os yw’r ffeithiau a drafodir yn ddadleuol. Un ffordd safonol o osod cyfeirnod byr yng nghanol y testun wedi’r ffaith y mae’n cyfeirio ato yw mewn cromfachau fel hyn: (Awdur, blwyddyn cyhoeddi, tud. rhif tudalen-rhif tudalen). Dylai cyfeirnod llawn gynnwys - Awdur ‘’‘Teitl llyfr’’’, Cyhoeddwr, blwyddyn cyhoeddi, cyfeirnod ISBN’’’ – ar gyfer llyfr ac – Awdyr, ’Teitl yr erthygl’, dyddiad cyhoeddi, dyddiad y lawrlwythwyd os ar y we – ar gyfer erthygl o gylchgrawn.
Mae rhai yn ei gweld yn gyfleus i gopïo testun i'w olygu o Wicipedia i raglen trin testun ar eich cyfrifiadur, golygu a gwirio'r sillafu yno ac yna copïo'r testun terfynol nôl i Wicipedia. Trwy wneud hyn, gallwch gadw copi o'r tudalennau y buoch yn gweithio arnynt ar eich cyfrifiadur.
Ar ôl cwblhau tudalen newydd, argymhellir i chwi:
- bwyso ar y botwm 'Beth sy'n cysylltu yma' yn y blwch offer er mwyn dilyn trywydd y cysylltiadau i'r erthygl newydd sydd eisoes yn bodoli. Gellir cadarnhau bod pwnc yr erthygl yn cyfateb i ystyr y gair sy'n cysylltu;
- ddefnyddio'r botwm 'Chwilio' i ddarganfod erthyglau eraill sy'n cynnwys teitl yr erthygl newydd, neu amrywiadau arno. Gellir creu cysylltiadau o'r erthyglau hyn at yr erthygl newydd; a
- chreu tudalennau ailgyfeirio o amrywiadau ar deitl yr erthygl, gan gynnwys camsillafiadau, amrywiaethau ar atalnodi neu sillafu, a thermau amgen.
[golygu] Cystrawen wici
Rhoddir enghreifftiau o gystrawen wici ar y dudalen Wicipedia:Enghreifftiau cystrawen wici. Isod ceir enghrheifftiau o'r 6 cystrawen wici amlaf eu defnydd.
Yng ngholofn chwith y tabl isod gwelir pa waith dylunio sy'n bosib ei wneud ar wicipedia. Yn y golofn dde disgrifir sut y crëir yr effeithiau hyn, h.y. beth sydd angen ei deipio i greu'r ffurf ar y testun a ddangosir ar y chwith.
Os ydych am gadw'r dudalen hon wrth law gallwch gadw'r dudalen ar agor mewn ffenestr arall.
I ymddangos fel hyn | teipiwch hyn |
---|---|
Gallwch italeiddio'r testun drwy osod 2 gollnod ar bob ochr iddo.
Bydd 5 collnod naill ochr yn creu testun trwm wedi italeiddio.
|
Gallwch ''italeiddio'r testun'' drwy osod 2 gollnod ar bob ochr iddo. Bydd 3 collnod naill ochr yn creu '''testun''' teip trwm. Bydd 5 collnod naill ochr yn creu '''''testun''''' trwm wedi italeiddio. (Nid yw 4 collnod yn creu dim amgen na thestun trwm ag ''''un collnod dros ben''''.) |
Dylech "lofnodi'ch" sylwadau ar dudalennau sgwrs gyda: |
Dylech "lofnodi'ch" sylwadau ar dudalennau sgwrs gyda: <br> - 3 tilde ar gyfer eich enw defnyddiwr: ~~~ <br> - 4 tilde ar gyfer eich enw defnyddiwr, yr amser a'r dyddiad: ~~~~ <br> - 5 tilde ar gyfer yr amser a'r dyddiad yn unig: ~~~~~ <br> |
Penawdau adrannau
Gallwch ddefnyddio penawdau i drefnu erthygl yn adrannau. Mae meddalwedd wici yn gallu cynhyrchu taflen gynnwys awtomatig o'r penawdau. Isadran
Defnyddiwch rhagor o'r symbol hafal i greu isadrannau. Isadran llai
Peidiwch â hepgor lefel, e.e. trwy roi 4 symbol hafal ar ôl 2 ohonynt. Dechreuwch â 2 symbol hafal yn hytrach nag 1 oherwydd bod un yn creu tagiau H1 ar gyfer teitlau erthyglau. |
== Penawdau adrannau == Gallwch ddefnyddio ''penawdau'' i drefnu erthygl yn adrannau. Mae meddalwedd wici yn gallu cynhyrchu taflen gynnwys awtomatig o'r penawdau. === Isadran === Defnyddiwch rhagor o'r symbol hafal i greu isadrannau. ==== Isadran llai ==== Peidiwch â hepgor lefel, e.e. trwy roi 4 symbol hafal ar ôl 2 ohonynt. Dechreuwch â 2 symbol hafal yn hytrach nag 1 oherwydd bod un yn creu tagiau H1 ar gyfer teitlau erthyglau. |
yn nodi diwedd y rhestr.
|
* I greu ''rhestr heb ei threfnu'': ** Dechreuwch pob llinell â seren. *** Mae rhagor o sêr yn creu is-lefelau. *: Mae'r eitem gynt yn parhau. ** Mae llinell newydd * yn y rhestr yn nodi diwedd y rhestr. * Gallwch ddechrau rhestr arall o'r newydd. |
Noda linell newydd ddiwedd y rhestr.
|
# Mae ''rhestri wedi'i rhifo'' yn: ## drefnus iawn ## hawdd i'w dilyn. Noda linell newydd ddiwedd y rhestr. # Dechreua rhestr newydd â'r rhif 1. |
Dyma gyswllt i'r dudalen Alotrop. Gallwch ysgrifennu alotropau ac fe ymddengys y cyswllt yn gywir. |
Dyma gyswllt i'r dudalen [[Alotrop]]. Gallwch ysgrifennu [[alotrop]]au ac fe ymddengys y cyswllt yn gywir. |
Nid yw'r dudalen Tywydd Moscow yn bod eto. Gallwch ei greu drwy bwyso ar y cyswllt. |
Nid yw'r dudalen [[Tywydd Moscow]] yn bod eto. Gallwch ei greu drwy bwyso ar y cyswllt. |
Gallwch gysylltu ag adran o fewn erthygl: Os oes nifer o adrannau â'r un un teitl ganddynt ychwanegwch rif. Aiff y cyswllt #Example section 3 i'r trydydd adran o'r enw "Example section". |
Gallwch gysylltu ag adran o fewn erthygl: *[[Cymraeg#Cymraeg Cynnar]]. Os oes nifer o adrannau â'r un un teitl ganddynt ychwanegwch rif. Aiff y cyswllt [[#Example section 3]] i'r trydydd adran o'r enw "Example section". |
[golygu] Tablau
[golygu] Gosod y daflen gynnwys (TOC)
Yn ôl cystrawen wici ar hyn o bryd fe ymddengys y daflen gynnwys pan bod pedwar neu ragor o benawdau mewn erthygl. Fe ymddengys o flaen y pennawd cyntaf. Er mwyn dileu'r daflen rhowch __DIMTAFLENCYNNWYS__ rhywle yn yr erthygl. Gweler Wicipedia:Taflen cynnwys ar sut i greu taflenni cryno yn seiliedig ar yr wyddor neu'r flwyddyn.
[golygu] Newidynnau
Cod | Effaith |
---|---|
{{MISCYFOES}} | 03 |
{{ENWMISCYFOES}} | Mawrth |
{{GENENWMISCYFOES}} | Mawrth |
{{DYDDIADCYFOES}} | 7 |
{{ENWDYDDCYFOES}} | Dydd Gwener |
{{FLWYDDYNCYFOES}} | 2008 |
{{AMSERCYFOES}} | 23:33 |
{{NIFEROERTHYGLAU}} | 14,675 |
NIFEROERTHYGLAU: nifer yr erthyglau sydd â chyswllt ynddynt ac nad ydynt yn dudalennau ailgyfeirio, h.y. nifer yr erthyglau, egin erthyglau â chyswllt ynddynt a thudalennau gwahaniaethau.