Tír na n-Óg
Oddi ar Wicipedia
Tír na n-Óg yw "Gwlad Ieuenctid" yn chwedloniaeth Geltaidd. Mae'n wlad arallfydol baradwysaidd lle ni cheir na haint, na henaint nac angau. Mae'n gorwedd y tu hwnt i fyd y ddynoliaeth. Yn y chwedl Wyddeleg gynnar Immram Brain mae'r arwr Bran a'i gydymdeithion yn ymweld ag ynys sy'n cynrhychioli Tír na n-Óg.
Cyfansoddodd y bardd T. Gwynn Jones awdl delynegol o'r enw 'Tir na n-Óg' sy'n sôn am gariad Osian a Nia Ben Aur, merch brenin Tír na n-Óg.
Mae Tír na n-Óg yn wlad,
- 'Lle mae haul yn lliwio môr,
- Fore neu hwyr, yn farwor,
- Heb wae trist adnabod tranc,
- Tragywydd y trig ieuanc!'
(Caniadau)[1]
[golygu] Gweler hefyd
- Gwobr Tir na n-Og, gwobr lenyddol yng Nghymru ar gyfer llenorion plant.
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ T. Gwynn Jones, Caniadau (Wrecsam, 1934), tt. 60-74
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.