Tŵr Eiffel
Oddi ar Wicipedia
Tŵr mawr haearn yng nghanol Paris yw Tŵr Eiffel (Ffrangeg tour Eiffel IPA: /tuʀ ɛfɛl/). Saif ar y Champs de Mars ar lan Afon Seine. Cwblheuwyd y tŵr yn 1889 yn ôl dyluniad gan y peirianydd Gustave Eiffel. Pan y'i hadeiladwyd, Tŵr Eiffel oedd y stwythur uchaf yn y byd. Arhosodd felly tan 1930, pryd adeiladwyd yr Adeilad Chrysler yn Efrog Newydd. Mae'n enwog heddiw fel delwedd o Baris ac o Ffrainc yn rhyngwladol.