T. James Jones
Oddi ar Wicipedia
Y Prifardd T. James Jones oedd enillydd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint a'r Cyffiniau 2007, am ysgrifennu awdl ar gynghanedd heb fod dros 200 llinell ar y testun "Ffin".
Enillodd y Goron yn Eisteddfod Abergwaun ym 1986 ac yng Nghasnewydd ym 1988 am ei bryddestau, Llwch, a Ffin. Mae felly wedi ennill Cadair a Choron ar yr un testun.
Mae'n ewyrth i'r Prifardd Tudur Dylan Jones a enillodd y goron yn Eisteddfod Sir Fflint a'r Cyffiniau hefyd.
Mae'n briod â'r awdures Manon Rhys, yn dad i Tegid a Bedwyr, ac yn llystad i Owain a Llio.
Roedd ei ffugenw yn 2007, Un o ddeuawd, yn adlais o'r ffrae a gododd pan gystadlodd am y goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon yn 1979. Pryd hynny, bu'n rhaid iddo ildio'r Goron wedi iddi ddod yn amlwg iddo gydweithio â bardd arall. Serch hynny, mae'n honni na fwriadodd o gwbl i'w ffugenw gyfeirio at helynt 1979.[1]
[golygu] Cyfeiriadau
- ↑ BBC. Ffugenw yn dychryn trefnydd yr Eisteddfod. Adalwyd ar 10 Awst, 2007.