Teyrnas Prydain Fawr
Oddi ar Wicipedia
Yr oedd Teyrnas Prydain Fawr (a elwir weithiau, ond yn anghywir, yn Deyrnas Unedig Prydain Fawr), yn wladwriaeth yng Ngorllewin Ewrop, a fodolai o 1707 hyd 1800. Cafodd ei chreu trwy uniad Teyrnas yr Alban a Theyrnas Lloegr, dan Ddeddfa Uno 1707, i greu teyrnas unigol yn cynnwys Prydain Fawr i gyd (Lloegr, Cymru a'r Alban heddiw). Addaswyd senedd Lloegr i greu senedd newydd, yn San Steffan yn Llundain, gyda llywodraeth newydd seiliedig ar hen lywodraeth Lloegr, i'w rheoli. Paratowyd y tir ar gyfer yr uniad gan y ffaith fod teyrnasoedd yr Alban a Lloegr (a oedd yn cynnwys Cymru at bwrpasau deddfwriaethol) wedi rhannu'r un teyrn ers i Iago VI, Brenin yr Alban, ddod yn frenin Lloegr yn 1603.
Cymerodd Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon le Teyrnas Prydain Fawr yn 1801 pan lyncwyd Teyrnas Iwerddon gan Ddeddf Uno 1800 ar ôl methiant y Gwrthryfel Gwyddelig yn 1798.
[golygu] Llywodraeth
[golygu] Brenhinoedd a breninesau
- Anne o Brydain Fawr (1707–1714)
- Siôr I o Brydain Fawr (1714–1727)
- Siôr II o Brydain Fawr (1727–1760)
- Siôr III o Brydain Fawr (1760–1801)
Am fod tri brenin o'r enw Siôr yn rheoli, cyfeirir at gyfnod eu teyrnasiad fel y "Cyfnod Sioraidd."
[golygu] Prif Weinidogion
- Robert Walpole (1721–1742)
- William Pitt yr Ieuengaf (1783-1810)