Teyrnas Rhufain
Oddi ar Wicipedia
Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Rhufain ar 21 Ebrill, 753 CC gan Romulus a Remus, disgynyddion Aeneas o Gaerdroia. Efeilliaid oeddynt, meibion y duw Mars a Rhea Silvia, merch chwedlonol Numitor, brenin Alba Longa. Cafodd yr efeilliaid ifainc eu taflu i Afon Tiber gan Amulius, oedd wedi diorseddu Numitor. Cawsant eu golchi i'r lan a'u magu gan fleiddiast. Yn ddiweddarach fe'u darganfuwyd gan fugail a'u mabwysiadu ganddo.
Yn nes ymlaen sefydlasant ddinas Rhufain ar y llecyn lle cawsant eu golchi i'r lan. Dywedir i Romulus a Remus sefyll ar ddau fryn a gwylio am arwyddion. Gwelodd Rwmus chwech fwltur, ond gwelodd Romulus ddeuddeg, ac felly ef gafodd osod sylfaen y ddinas. Cododd Romulus y ddinas ar allt Palatein.
Tyfodd y ddinas yn raddol o sefydliadau bychain o gwmpas rhyd dros Afon Tiber. Bu cyfres o frenhinoedd ar Rufain, hyd nes i'r brenin olaf, Lucius Tarquinius Superbus, gael ei ddiorseddu a'i alltudio tua 510 neu 509 CC. Ystyrir hyn fel dechreuad Gweriniaeth Rhufain.
[golygu] Brenhinoedd Rhufasin
Dyddiadau yn dilyn Marcus Terentius Varro.
- Romulus (753 CC - 716 CC)
- Numa Pompilius (715 CC - 674 CC)
- Tullus Hostilius (673 CC - 642 CC)
- Ancus Marcius (642 CC - 617 CC)
- Lucius Tarquinius Priscus (616 CC - 579 CC)
- Servius Tullius (578 CC - 535 CC)
- Lucius Tarquinius Superbus (535 CC - 510 CC)