The Now Show
Oddi ar Wicipedia
Rhaglen radio dychanu ddigri ydy The Now Show, sy'n cael ei ddarlledu ar BBC Radio 4. Mae'r rhaglen yn dychanu newyddion yr wythnos drwy gymysgedd o stand-up, sgetshis a chaneuon wedi eu cyflwyno gan Steve Punt a Hugh Dennis. Mae sgitiau gan Jon Holmes (gyda jociau ynglyn a'i daldra), Laura Shavin (Emma Kennedy oedd yn gwneud y lleisiau yn y cyfresi cynnar), a monolog (fel arfer yn debycach i refru) gan Marcus Brigstocke, a charddoriaeth gan Mitch Benn. Mae cyfresi yn y gorffenol hefyd wedi cynnwys Robin Ince, Dave Gorman, Simon Munnery, Al Murray, Andy Zaltzman a Dr Phil Hammond. Mae Jon Culshaw wedi ymddangos ym mhenodau'r Nadolig yn 2004 a 2005. Mae Rory Bremner hefyd yn westai ar y rhaglen weithiau. Mae gwestai hefyd yn cymryd lle aelodau cast rwan ac yn y man.
The Now Show Wikipedia Excerpt Media:TheNowShow_20060804_Wikipedia.ogg Darn o fersiwn podcast y rhaglen sy'n dychanu Wicipedia fel offer twyllo ar gyfer myfyrwyr TGAU - 565KB