The War of the Worlds
Oddi ar Wicipedia
Wedi'i chyhoeddi yn 1898, nofel ffuglen wyddonol yw The War of the Worlds gan yr awdur o Sais H. G. Wells.
[golygu] Y Stori
Rhybudd: Datguddir plot y llyfr yn yr erthygl hon.
Wedi'i lleoli yn bennaf yn nhrefi bach Surrey, de-ddwyrain Lloegr, mae'r stori'n disgrifio ymosodiad ar y Ddaear gan fyddin o'r blaned Mawrth.
Mae'r rhan fwyaf o'r cyffro yn cael ei ddisgrifio o safbwynt storïwr di-enw sy'n byw yn nhref Woking pan mae'r cyntaf o longau gofod y Mawrthiaid yn glanio. (Mae cofeb bellach yn y dref honno i ddigwyddiadau'r stori). Pur ddifater yw'r storïwr a phawb o'i gwmpas nes y daw'n amlwg bod yr estroniaid am ddisodli'r ddynoliaeth fel llywodraethwyr y blaned. Gan sylweddoli'r perygl, mae'r storïwr yn danfon ei wraig ymlaen i Leatherhead at ei theulu, ac yn treulio rhan fawr o'r stori wedyn yn ceisio ei dilyn hi yno. Yn ystod ei deithiau, mae e'n cwrdd â dau brif gymeriad arall y nofel, magnelwr penchwiban sy'n breuddwydio am greu gwareiddiad newydd yn y twnneli a charthffosydd o dan Lundain, a churad hanner pan sy'n credu bod Duw'n cosbi'r Ddaear trwy'r Mawrthiaid.
Gyda chasgliad brawychus o arafau dinistriol, gan gynnwys peiriannau ymladd tair-coesog yn saethu pelydrau gwres a mwg du marwol, mae'r ymosodwyr yn symud tua'r gogledd, gan yrru'r rhan fwyaf o bologaeth Llundain ar ffo. Mae'r storïwr yn cerdded ar ei ben ei hunan trwy strydoedd gwag y ddinas, gan dybio mai fe yw'r unig ddyn byw yno. Daw'r stori i ben yn ddramatig pan ddaw e ar draws nifer o'r Mawrthiaid yn marw, ac yn sylweddoli eu bod nhw wedi'u trechu gan facteria naturiol y Ddaear.
[golygu] Neges y Llyfr
Bu sawl dehongliad ar neges ac ystyr y llyfr. Yn sicr, condemniad yw e ar hubris a hyder gormodol pobl Oes Fictoria, a'u cred mai nhw oedd meistri naturiol y Ddaear. At hynny, mae yna gymhariaethau agored gan yr awdur rhwng y ffordd y mae'r Mawrthiaid yn trin pobl y Ddaear a'r ffordd yr oedd Ewropeaid wedi trin pobloedd eraill y byd. (Mae H.G. Wells yn sôn yn benodol yn y llyfr am fel y bu Ewropeaid yn gyfrifol am ddileu hil y Tasmaniaid yn gyfan gwbl o fewn prin bum deng mlynedd).
Fe ellir gweld hefyd yn y llyfr ddadl dros hawliau anifeiliaid: wrth ei gael ei hunan ar ei ben ei hunan yng nghefn gwlad Surrey, a'r Mawrthiaid ar ei ôl, mae'r storïwr yn siarad gyda chryn gydymdeimlad am dynged y creaduriaid y mae dynion yn eu hela.
[golygu] Addasadiau
Addaswyd y nofel yn ddrama radio yn 1938 gan Orson Welles a'i Gwmni Theatr Mercury. Symudwyd y lleoliad i New Jersey, a chyflwynodd yr actorion y stori mewn dull newyddiadurol, fel pe baent yn adrodd stori hollol wir. Mor effeithiol oedd hyn nes bod llawer o bobl yn gwir gredu bod y Mawrthiaid wedi glanio yn America, gan ffoi o'u cartrefi dan fraw.
Trowyd The War of the Worlds yn ffilm yn 1953 gan y cyfarwyddwr Byron Haskin, ond cynhyrchiad eithaf di-fflach oedd hwn, ac iddo neges wrth-Gomiwynyddol ddiflas o amlwg.
Yn 1978, trowyd y stori yn opera roc gan y cerddor Jeff Wayne, a Richard Burton yn cymryd rhan y storïwr.
Yn 1988-1990 roedd yna ddwy gyfres o fersiwn teledu Americanaidd o'r War of the Worlds, gyda'r Mawrthwyr yn deffro o aeafgwsg - roeddent wedi bod yn cysgu ers y ffilm 1953!
Cafwyd ail addasiad ffilm yn 2005 gan y cyfarwyddwr Steven Speilberg, ond pur gymysg oedd barn y beirniaid ar hwn.