Theocritos
Oddi ar Wicipedia
Bardd yn yr iaith Roeg oedd Theocritus neu Theocritos (Groeg: Θεόκριτος)(c. 310 CC - 250 CC), a aned yn Syracuse ar ynys Sicily (neu ar Ynys Kos yn ôl traddodiad arall).
Mae Theocritus yn adnabyddus am ei fugeilgerddi (neu "gerddi bucolic"). Ei ddilynwyr oedd Bion a Moschus.
Roedd ei waith yn ffasiynol iawn yn y 18fed ganrif a throes nifer o feirdd y cyfnod at ysgrifennu bugeilgerddi; y mwyaf adnabyddus yn y Gymraeg yw Edward Richard.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.