Theodosius I
Oddi ar Wicipedia
Roedd Flavius Theodosius (11 Ionawr, 347 - 17 Ionawr, 395), a elwir hefyd yn Theodosius I a Theodosius Fawr, yn Ymerawdwr Rhufain rhwng 379 a 395. Ad-unodd rannau dwyreiniol a gorllewinol yr ymerodraeth, ac ef oedd yr ymerawdwr olaf i deyrnasu dros yr ymerodraeth gyfan. Gwnaeth Gristionogaeth yn grefydd swyddogol yr ymerodraeth.
Ganed Theodosius yn Cauca (Coca heddiw) yn Sbaen. Roedd ei dad, hefyd o'r enw Theodosius, yn swyddog uchel yn y fyddin. Aeth Theodosius y mab gyda'i dad i Brydain yn 368, ac yna gwnaed ef yn reolwr milwrol (dux) talaith Moesia ar Afon Donaw yn 374. Yn fuan wedyn dienyddiwyd ei dad, a dychwelodd Theodosius i Cauca.
O 375 ymlaen, roedd tri ymerawdwr yn rheoli darnau o'r ymerodraeth: Valens, Valentinian II a Gratian. Pan laddwyd Valens ym Mrwydr Adrianople yn 378, penododd Gratian Theodosius yn ei le fel cyd-augustus yn y dwyrain. Lladdwyd Gratian mewn gwrthryfel yn 383, a chyhoeddodd Macsen Wledig (Magnus Maximus) ei hun yn gyd-ymerawdwr yn y gorllewin, gan feddiannu holl daleithiau'r gorllewin heblaw yr Eidal. Yn 387 ymosododd Macsen ar yr Eidal, ond gorchfygodd Theodosius ef a'i ladd.
Bu farw Valentinian II yn 392, gan adael Theodosius yn unig ymerawdwr. Cyhoeddodd y magister militum Arbogast gyd-ymerawdwr newydd, Eugenius, yn lle Valentinian. Ceisiodd Eugenius adfer paganiaeth, ond gorchfygwyd ef gan Theodosius ym mrwydr Frigidus.
Priododd Theodosius ddwywaith. Gan ei wraig gyntaf, Aelia Flaccilla, cafodd ddau fab, Arcadius a Honorius a merch, Pulcheria. Wedi marwolaeth Aelia Flaccilla yn 385, priododd Galla, merch Valentinian I, a chawsant ferch, Galla Placidia, mam yr ymerawdwr Valentinian III. Dilynwyd Theodosius gan ei ddau fab, Honorius yn y gorllewin ac Arcadius yn y dwyrain.
Rhagflaenydd: Gratianus Valens a Valentinian II |
Ymerodron Rhufain | Olynydd: Honorius (yn y gorllewin) Arcadius (yn y dwyrain) |