Thimphu
Oddi ar Wicipedia
Thimphu yw prifddinas Bhutan, yn ogystal â bod yn enw ar yr ardal amgylchol a'r dzongkhag, Rhanbarth Thimphu. Gyda phoblogaeth o tua 50,000 (2003), Thimphu yw dinas fwyaf y wlad. Ei lleoliad yw 27°28′00″Gog., 89°38′30″Dwy. Ceir hefyd y ffurf orllewinol Thimbu.
Tashichoedzong, y gaer-fynachlog ar ymyl ogleddol y ddinas, a godwyd yn yr 17eg ganrif, yw sedd llywodraeth y wlad er 1952.
Mae'r ddinas yn ymestyn dros lethrau gorllewinol Dyffryn Wang Chhu. Mae Thimphu wedi gweld tyfiant sylweddol mewn canlyniad i'r all-lifo poblogaeth o gefn-gwlad. Norzin Lam yw'r brif stryd, gyda nifer o siopau, bwytai, ac adeiladau cyhoeddus. Mae pob adeilad yn y ddinas yn gorfod dilyn rheolau cynllunio caeth ynglŷn â phensaerniaeth ac ymddangosiad i adlewyrchu traddodiadau Bwdhaidd y wlad. Cynhelir marchnad ar y penwythnos ar lan yr afon. Lleolir y rhan fwyaf o ddiwydiant ysgafn y ddinas ar ei chyrrion i'r de o'r afon. Lleolir mynachlogydd Dechenphu, Tango a Cheri, ynghyd â Phalas Dechenchoeling, cartref swyddogol brenin Bhutan, i'r gogledd o'r ddinas.