Thomas Malthus
Oddi ar Wicipedia
Economegydd a chlerigwr o Sais oedd Thomas Robert Malthus (14 Chwefror, 1766 - 23 Rhagfyr, 1834), a aned ger Dorking, Surrey, yn ne Lloegr. Mae'n adnabyddus am ei waith dylanwadol An Essay on the Principle of Population (1798 a 1807), llyfr a gadarnheuodd ddamcaniaeth detholiad naturiol ym meddwl Charles Darwin.
Galwodd Malthus am fesurau i reoli tyfiant poblogaeth trwy ddulliau atalgenhedlu neu lwyrymwrthod â chyfathrach rhywiol. Cododd ei waith wrychyn nifer o wrthwynebwyr ceidwadol.
Mae ei lyfrau eraill yn cynnwys An Inquiry into the Nature and Progress of Rent (1815) a Priciples of Political Economy (1820), llyfr a fraenarodd y tir ar gyfer gwaith David Ricardo.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.