Thomas Mardy Rees
Oddi ar Wicipedia
Clawr darluniedig "Difyrwch Gwyr Morgannwg" gan T. Mardy Rees (tua 1920)
Awdur a phregethwr oedd Thomas Mardy Rees (1871 - 2 Mai 1953). Roedd yn frodor o Gastell-nedd, Morgannwg, yn ne Cymru.
Roedd yn weinidog gyda'r Annibynwyr.
Ysgrifennai yn Gymraeg ac yn Saesneg ar hanes Anghydffurfiaeth a'r Crynwyr, hanes celf yng Nghymru a llyfrau poblogaidd ar hanes Cymru. Cyhoeddodd yn ogystal gyfrol o straeon byrion doniol Cymraeg am fywyd glowyr y De, Difyrwch Gwyr Morgannwg (sic).
[golygu] Llyfryddiaeth ddethol
[golygu] Cyfrolau T. Mardy Rees
- Welsh Painters, Engravers, Sculptors (1527-1911) (Caernarfon, 1912)
- Ystoriau Difyr
- Mynychdai Cymru
- Difyrwch Gwyr Morgannwg (Caernarfon, d.d.=tua 1920)
- A History of the Quakers in Wales and their emigration to North America (Caerfyrddin, 1925)