Thomas o Celano
Oddi ar Wicipedia
Roedd Thomas o Celano (c. 1200 - c. 1255) awdur yn yr iaith Ladin ac yn fynach Fransisaidd, yn enedigol o Celano yn yr Eidal.
Roedd Thomas yn un o aelodau cyntaf urdd Sant Ffransis o Assisi, a sefydlwyd yn 1209. Ysgrifennodd fuchedd (bywgraffiad) Ffransis, sylfaenydd yr urdd.
Mae Thomas yn fwy adnabyddus, fodd bynnag, fel awdur tybiedig yr emyn Ladin enwog, Dies irae, a addaswyd yn ddiweddarach i gael ei chynnwys yn y Sequentia Offeryn Requiem.