Traian Băsescu
Oddi ar Wicipedia
Traian Băsescu | |
![]() |
|
|
|
Deiliad | |
Cymryd y swydd 21 Rhagfyr, 2004 |
|
Rhagflaenydd | Ion Iliescu |
---|---|
|
|
Geni | 4 Tachwedd 1951 (56 oed) Basarabi, Constanţa |
Plaid wleidyddol | Democratwr |
Priod | Maria Băsescu |
Galwedigaeth | Swyddog Llynges Fasnachol |
Crefydd | Uniongred Rwmanaidd |
Gwleidydd Rwmanaidd yw Traian Băsescu (ganwyd 4 Tachwedd 1951). Ef yw arlywydd cyfredol Rwmania. Enillodd etholiad arlywyddol 2004 a chafodd ei urddo ar 20 Rhagfyr 2004.
[golygu] Gyrfa wleidyddol
Cyn dod yn wleidydd, roedd Băsescu yn gapten llongau masnachol llwyddiannus, yn gweitho i gwmni llongau'r wladwriaeth Navrom o 1976 tan y 1990au cynnar. Roedd e'n aelod o'r Blaid Gomiwnyddol yr adeg honno, ond mae wedi gwadu nifer o weithiau iddo weithio i'r Securitate, yr heddlu cudd, yn ystod y cyfnod hwn. Ymunodd â'r Blaid Ddemocrataidd amser ei sefydliad ym 1992. Cyn dod yn arlywydd, roedd yn Weinidog Cludiant o 1991 tan 1992 ac o fis Tachwedd 1996 tan mis Mehefin 2002, ac roedd yn Faer Bucureşti o Fehefin 2000 nes Rhagfyr 2004. Roedd ei benderfyniad ym mis Awst 2006 i agor ffeiliau'r Securitate yn ddadleuol iawn.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
[golygu] Cysylltiadau allanol
- (Rwmaneg) Basescu.ro: Gwefan ymgeisyddiaeth swyddogol
- (Rwmaneg) Bywgraffiad Traian Băsescu ar wefan Arlywyddiaeth Rwmania
Rhagflaenydd: Ion Iliescu |
Arlywydd Rwmania 20 Rhagfyr, 2004 - presennol |
Olynydd: deiliad |
Arlywyddion Rwmania (Rhestr) | ||||
![]() |
||||
Gweriniaeth Pobl Rwmania (1947 - 1965) | Constantin Parhon | Petru Groza | Ion Gheorghe Maurer | Gheorghe Gheorghiu-Dej | |||
Gweriniaeth Sosialaidd Rwmania (1965 - 1989) | Nicolae Ceauşescu | |||
Rwmania (ers 1989) | Ion Iliescu | Emil Constantinescu | Ion Iliescu | Traian Băsescu |