Tudwal
Oddi ar Wicipedia
Sant Llydewig o hanner cyntaf y 6ed ganrif oedd Tudwal (Lladin: Tudgualus, Llydaweg Tudgual). Yn ôl traddodiad bu farw yn 564. Mae'n un o Saith Sant-sefydlydd Llydaw.
Dywedir ei fod yn fab i Hywel Mawr (Hoel), un o frenhinoedd Llydaw. Teithiodd i Iwerddon i astudio, cyn ymsefydlu fel meudwy ar y lleiaf o'r ddwy ynys a elwir yn awr yn Ynysoedd Tudwal ger Penrhyn Llŷn. Gellir gwweld olion priordy ar y lleiaf o'r ddwy ynys, sydd yn ôl traddodiad ar safle clas Tudwal. Mae hefyd draddodiad ei fod wedi treulio cyfnod yn Llanilltud Fawr, a bod sant Curig yn un o'i ddisgyblion yno.
Yn ddiweddarach dychwelodd i Lydaw a sefydlu mynachlog dan nawdd ei gefnder, Deroch, brenin Domnonia. Dywedir iddo gael ei wneud yn esgob Tréguier ar anogaeth Childebert I, brenin y Ffranciaid. Ei ddydd gwylmabsant yw 1 Rhagfyr.