Undeb Cymru Fydd
Oddi ar Wicipedia
- Am enghreifftiau eraill o'r enw Cymru Fydd gweler y dudalen gwahaniaethu.
Cymdeithas ddiwylliannol wladgarol oedd Undeb Cymru Fydd. Fe'i sefydlwyd yn 1941 pan unwyd Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Cymreig a Pwyllgor Amddiffyn Diwylliant Cymru i ffurfio mudiad newydd gyda'r bwriad o hyrwyddo diwylliant Cymru a'r iaith Gymraeg a bod yn ffocws a chyfrwng cydweithredu i'r perwyl hwnnw. Mae'r enw yn adlais o enw'r mudiad gwladgarol cynharach Cymru Fydd.
T. I. Ellis (1899 - 1970), mab y gwleidydd Thomas Edward Ellis (1859 - 1899) a chwaraeodd ran bwysig yn yr hen Gymru Fydd, oedd ysgrifenydd y mudiad hyd 1967.
Un o ymgyrchoedd cyntaf y mudiad oedd y frwydr i warchod Mynydd Epynt ac ardaloedd eraill yng Nghymru rhag cael eu meddiannu gan y Swyddfa Ryfel ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, ond methiant fu.
Prif weithgarwch yr undeb oedd pwyso ar lywodraeth Prydain i fabwysiadu polisïau mwy ffafriol a datganoliedig i Gymru a'r Gymraeg mewn meysydd fel addysg a darlledu. Yn ogystal cyhoeddid cyfres o lyfrau a chylchgronau fel Cofion Cymru ar gyfer y Cymry yn y lluoedd arfog adeg yr Ail Ryfel Byd.
Ond roedd agweddau mwy gwleidyddol i'r undeb hefyd. Ym 1950 cynhalwyd cynhadledd arbennig a roes y sbardun i gychwyn yr Ymgyrch dros Senedd i Gymru. Collodd yr undeb ei ffordd yn y 1960au gyda'r cynnydd mewn cenedlaetholdeb Cymreig gwleidyddol a sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg (1962). Dirwynwyd yr undeb i ben yn 1969.
[golygu] Darllen pellach
- T. I. Ellis, Undeb Cymry Fydd (1960)
- William George, Cymru Fydd (Lerpwl, 1945)
- R. Gerallt Jones, A Bid for Unity (1971)