Upsilon Andromedae b
Oddi ar Wicipedia
Mae Upsilon Andromedae b (a elwir hefyd Upsilon Andromedae Ab i'w gwahanu oddi wrth y seren Upsilon Andromedae B) yn blaned allheulol sydd yn cylchio'r seren Upsilon Andromedae A - seren yng nghytser Andromeda sydd yn debyg i'n Haul ni - pob 4.62 o ddyddiau. Cafodd ei darganfod ym 1996 ac roedd hi un o'r esiamplau cyntaf o Iau poeth i gael ei darganfod. Upsilon Andromedae b ydy'r fwyaf mewnol o blanedau cysawd Upsilon Andromedae A i gael ei darganfod.
Mae'r blaned yn nes at ei seren nag y mae Mercher at yr Haul, gydag echel led-fwyaf o ddim ond 0.0595 o Unedau Seryddol.
Mae crynswth y blaned o leiaf 68% yn fwy na Iau. Ond ni wyddys ei radiws na chynnwys ei hawyrgylch oherwydd mae hi wedi cael ei darganfod trwy fodd anuniongyrchol. Serch hynny mae'r Telesgop Spitzer wedi mesuro tymheredd y blaned, a darganfod gwahaniaeth rhwng yr ochr sy'n wynebu'r seren (1400 i 1650 C) a'r ochr "tywyll" (-20 i 230 C), sydd yn awgrymu bod y blaned yn cylchio yn gydamserol â'r seren, gyda'r un ochr bob amser yn ei hwynebu hi.