Victoria Plucknett
Oddi ar Wicipedia
Actores o ardal Abertawe yw Victoria Plucknett. A hithau'n dod o deulu di-Gymraeg, mae bellach yn chwarae rhan 'Diane Francis' ar yr opera sebon Pobol y Cwm ar S4C ers y nawdegau. Ymddangosodd fel 'Mary' yn y gyfres deledu The Duchess of Duke Street hefyd.
Ar un adeg, bu'n rhaid iddi adael Pobol y Cwm am gyfnod achos brifodd ei chefn felly cymerodd actores arall ei rôl yn y rhaglen, Eluned Morgan, gan bortreadu Diane am rai wythnosau.