Vidkun Quisling
Oddi ar Wicipedia
Swyddog yn y fyddin Norwyaidd a chydweithiwr â'r Natsïaid oedd Vidkun Quisling, neu Abraham Lauritz Jonsson (1887 - 1945). Mae ei snam wedi tyfu'n llysenw am "fradwr" a "chachgi".
Ar ôl cyfnod yn y Weinyddiaeth Amddiffyn ffurfiodd y Blaid Undeb Genedlaethol ffasgyddol yn 1933. Anogodd a chroesawodd oresgyniad Norwy gan yr Almaenwyr yn 1940. Fel "arlywydd-weinidog" (term a ddyfeisiwyd yr adeg honno) rheolai ei wlad dan y Natsïaid yn ystod yr Ail Ryfel Byd a bu'n gyfrifol am anfon tua mil o Iddewon i'r gwersylloedd crynhoi.
Cafodd ei arestio yn 1945, ei chael yn euog o droseddau rhyfel a'i ddienyddio.