Vincent van Gogh
Oddi ar Wicipedia
Arlunydd o'r Iseldiroedd oedd Vincent van Gogh (1853-1890). (Ynganiad: 'Finsent fán chòch'). Roedd yn un o'r Ôl-argraffiadwyr, ac mae'n un o'r artistiaid enwocaf erioed.
Fe'i ganwyd yn Zundert ar y degfed ar hugain o Fawrth, 1853, a bu farw ar y nawfed ar hugain o Orffennaf, 1890 yn Auvers-sur-Oise. Yn ddyn ifanc, bu'n fasnachwr celf, yn athro, ac yna'n bregethwr - ond ni fu'n llwyddiannus iawn yn yr un o'r meysydd hyn. Ym 1880 y cychwynnodd ar ei yrfa fel arlunydd, ag yntau'n 27 oed. Un o'r pethau a'i symbylodd i ddechrau arlunio oedd anogaeth ei frawd Theo, a oedd yn werthwr gwaith celf llwyddiannus ym Mharis ar y pryd. Theo oedd un o'r ychydig rai a gredai yn ei athrylith, a bu'n anfon deunyddiau peintio ac arian at ei frawd mawr yn fisol o'r cyfnod hwnnw ymlaen. Yn ystod ei fywyd ysgrifennodd Vincent lawer o lythyrau at Theo, a chadwodd Theo bob un ohonynt; cawsant eu cyhoeddi ym 1914.
Roedd rhyw fath o salwch meddwl arno. Yn ystod un o'i byliau, torrodd labed ei glust i ffwrdd. Dirywiodd ei gyflwr meddyliol tua diwedd ei oes. Ar y seithfed ar hugain o Orffennaf 1890, fe'i saethodd ei hun yn ei frest. Bu farw yn ei wely ddeuddydd yn ddiweddarach, a Theo ei frawd wrth erchwyn ei wely. Roedd Theo wedi ceisio codi ei galon bod dyddiau gwell i dddod, ond geiriau olaf Vincent cyn marw oedd "La tristesse durera toujours" (fe bery'r tristwch am byth).
Cynhyrchodd Vincent ei holl waith, dros 2000 o weithiau i gyd gan gynnwys paentiadau a brasluniau, mewn deng mlynedd (tua 900 o beintiadau a thua 1100 o ddarluniau a brasluniau). I gychwyn, roedd ei luniau'n dywyll eu lliw, nes iddo ddarganfod gwaith yr argraffiadwyr ym Mharis. Daw mwyafrif ei luniau enwocaf o ddwy flynedd olaf ei fywyd, a gwnaeth 90 o luniau yn y deufis olaf. Roedd ei enwogrwydd wedi tyfu'n raddol ers ei arddangosfeydd cyntaf o 1880 ymlaen, ac wedi ei farwolaeth bu arddangosfeydd coffa iddo ym mhrif ddinasoedd Ewrop.
Bu ei ddylanwad ar gelf yr ugeinfed ganrif yn enfawr, yn arbennig artistiaid mynegiadol a'r ffofyddion. Erbyn hyn, mae ei waith ymysg y gwaith celf enwocaf, y mwyaf poblogaidd a'r drytaf erioed.