W. S. Jones
Oddi ar Wicipedia
Awdur Cymraeg, yn fwyaf adnabyddus fel creawdwr Ifas y Tryc, oedd William Samuel Jones, yn ysgrifennu fel W.S. Jones neu Wil Sam (28 Mai 1920 – 15 Tachwedd 2007)
Ganed ef yn Llanystumdwy, a bu’n byw yn Eifionydd ar hyd ei oes. Bu’n gweithio fel mecanydd cyn agor garej ei hun yn Llanystumdwy. Dechreuodd ysgrifennu yn ddyn ieuanc, ac yn ddiweddarach ysgrifennodd ddramau i’w perfformio yn Theatr y Gegin, Cricieth. Pan ddaeth Theatr y Gegin i ben yn 1976, dechreuodd ysgrifennu ar gyfer radio a theledu, a chyn hir gallodd ddod yn awdur llawn amser. Daeth i amlygrwydd cenedlaethol fel creawdwr Ifans y Tryc, a chwaraeid gan yr actor Stewart Jones.
Roedd yn briod a Dora Ann Jones, ac mae ganddynt ddwy ferch.
[golygu] Cyhoeddiadau
- Tair Drama Fer (1962)
- Pum Drama Fer (1963)
- Tŷ Clap (1965)
- Dau Frawd (1965)
- Y Fain (1967)
- Dinas Barhaus: a thair drama arall (1968)
- Mae Rhywbeth Bach (1969)
- Y Toblarôn (1975)
- Dyn y Mwnci (1979)
- Y Sul Hwnnw (1981)
- Ifas y tryc (1983)
- Ifas eto fyth! (1987)
- Deg drama Wil Sam (1995)
- Rhigymau Wil Sam (2005)
- Mân bethau hwylus: cymeriadau Eifionydd (2005)
[golygu] Llyfryddiaeth
- W. S. Jones Wil Sam, golygydd Gwenno Hywyn (Cyfres y Cewri 5) (Caernarfon:Gwasg Gwynedd, 1985)