Wales (Efrog Newydd)
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd Wales (gwahaniaethu).
Mae Wales yn dref yn Swydd Erie, Efrog Newydd, yn Unol Daleithiau America. Roedd ganddi boblogaeth o 2,960 yn ôl cyfrifiad 2000. Cafodd ei henwi'n Wales gan y Cymry a ymsefydlodd yno ar ddechrau'r 19eg ganrif.
Cyfrifir tref Wales yn lleol yn un o "Southtowns" Swydd Erie oherwydd ei lleoliad yn ne-ddwyrain y swydd honno. Mae hi'n gorwedd mewn ardal o goedwigoedd a ffrydiau.
Cyrhaeddodd yr ymsefydlwyr cyntaf yn 1806. Sefydlwyd tref Wales ganddynt yn 1818.
[golygu] Lleoedd yn Wales
Mae Tref Wales yn cynnwys y dref ei hun a'r tir o gwmpas. Ymhlith y lleoedd a chymunedau yno ceir.
- Buffalo Creek - ffrwd sy'n llifo i'r gogledd ger Wales
- Colgrave - Ar Ffordd Centerline
- South Wales - Pentref bychan ar y ffin â thref Aurora yn ne-ddwyrain Wales
- Wales Center - Penref bychan
- Wales Hollow