Wales (Massachusetts)
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd Wales (gwahaniaethu).
Mae Wales yn dref yn Swydd Hampden, Massachusetts, Unol Daleithiau America. Y boblogaeth yn ôl cyfrifiad 2000 yw 1,737. Mae gan y dref sawl adeilad hanesyddol yn yr arddull pensaernïol sy'n nodweddiadol o Massachusetts.
[golygu] Hanes
Daeth yr ymsefydlwyr Ewropeaidd cyntaf i Wales yn 1726 a chafodd ei chorffori'n swyddogol ar 23 Awst 1775 fel South Brimfield ; newidiwyd yr enw i Wales ar 20 Chwefror 1828.
[golygu] Daearyddiaeth
Yn ôl gwybodaeth Biwro Cyfrifiad yr Unol Daleithiau, mae gan y dref arwynebedd o 41.3 km² (16.0 milltir²). Mae 40.8 km² (15.8 milltir²) ohoni yn dir a 0.5 km² (0.2 mi² ; 1.32%) yn ddŵr. Ffinir Wales i'r gorlewin gan Monson; i'r de gan Stafford (Connecticut) ac Union (Connecticut); i'r dwyrain gan Holland; ac i'r gogledd gan Brimfield.