Walter Cradock
Oddi ar Wicipedia
Piwritan, diwygwr crefyddol a phregethwr Anghydfurffiol oedd Walter Cradock (1610? - 1659), a aned yn Llangwm, Sir Fynwy. Roedd yn un o'r cynorthwywyr a apwyntiwyd i archwilio gweinidogion yng Nghymru dan Ddeddf Taenu'r Efengyl yng Nghymru (1650).
Mae'n debyg mae yn Wrecsam y cafodd Morgan Llwyd ei addysg ffurfiol, ac iddo gyfarfod Walter Cradock yno am y tro cyntaf; bu Cradock yn athro crefydd i Forgan Llwyd am weddill ei oes.