Y Cenhedloedd
Oddi ar Wicipedia
- Gweler hefyd cenedl.
Yn y Beibl, pobl heb fod yn Iddewon yw'r Cenhedloedd. Mae'n enw a gysylltir yn bennaf â'r Testament Newydd, lle cyfeirir yn aml at yr apostolion "yn mynd allan i genhadu i'r cenhedloedd." (Rhaid cofio mai Iddewon oedd Iesu o Nasareth a'r rhan fwyaf o'i ddisgyblion; diweddarach yw'r gair Cristion.
Gentilis yw'r gair yn y Lladin, sy'n golygu 'yn perthyn i dylwyth neu lwyth'. Cyfieithiad yw'r gair Lladin o'r geiriau Hebraeg goy/גוי a nochri/נכרי. Fe'i defnyddir hefyd i gyfieithu'r gair Groeg εθνοι/ethnoi.