Y Dywysoges Gwenllian
Oddi ar Wicipedia
Merch Llywelyn Ein Llyw Olaf, Tywysog Cymru, a'i wraig Eleanor de Montfort, Arglwyddes Cymru, oedd y Dywysoges Gwenllian (12 Mehefin, 1282 - 7 Mehefin, 1337). Hi oedd unig ddisgynnydd cyfreithlon Llywelyn o'i briodas ag Elinor, merch y barwn Simon de Montfort. Cafodd ei geni yn llys tywysogion Gwynedd yn Abergwyngregyn a bu ei mam farw wrth roi genedigaeth iddi.
Ar ôl i Dywysogaeth Cymru gwympo a lladd Llywelyn a dienyddio ei frawd Dafydd bu erlid gan y Saeson ar ddisgynyddion uniongyrchol olaf Teulu Aberffraw. Yr oedd Gwenllian yn amlwg yn berygl posibl i Goron Lloegr ac o ganlyniad fe'i carcharwyd am oes ym Mhriordy Sant Gilbert yn Sempringham a hithau ond yn flwydd a hanner oed. Ac yno y bu tan ei marw yn 1337.
Codwyd maen coffa iddi yn Sempringham yn 2001 gan Gymdeithas Gwenllian.