Y Faner Newydd
Oddi ar Wicipedia
Cylchgrawn Cymraeg annibynnol ydy Y Faner Newydd. Sefydlwyd yn 1997, mae'r enw yn deyrnged i hen bapur Y Faner a ddaeth i ben yn 1992, argraffir y cylchgrawn gan wasg Y Lolfa. Mae'r cylchgrawn yn canolbwyntio ar bynciau megis darlledu, llenyddiaeth, hanes, celfyddyd, gwyddoniaeth a materion cyfoes.