Y Forwyn Fair
Oddi ar Wicipedia

Yn ôl y Testament Newydd, roedd Mair (a elwir hefyd yn Santes Fair neu'r Forwyn Fair) yn fam i Iesu Grist. Roedd hi'n briod â Sant Ioseff ac, yn ôl ffynonellau llai derbynnol, yn ferch i'r saint Joachim ac Ann. Mae efengyl Luc yn adrodd sut y dysgodd Mair, a oedd yn forwyn (gwyryf) ar y pryd, gan yr archangel Gabriel, negesydd oddi wrth Dduw, ei bod hi'n mynd i roi genedigaeth wyrthiol i Iesu Grist, Mab Duw.
Anrhydeddir y Santes Fair yn bennaf yn yr Eglwys Gatholig, ac o fewn yr eglwys honno credir iddi gael ei llenwi â gras Duw ers ei genedigaeth (nid yw'r athrawiaeth hon yn golygu, fel mae rhai wedi ei dehongli, bod Mair hithau wedi cael ei geni yn wyryfol). Athrawiaeth ganolog arall i Gristnogaeth yw'r Dyrchafiad, hynny yw, bod corff Mair wedi codi i'r nefoedd wedi ei marwolaeth.
Yn symbolaidd mae'r Forwyn Fair yn cael ei chyfelybu i Arch y Cyfamod yn y traddodiad liturgiaidd Cristnogol, am ei fod wedi dwyn Crist i'r byd i roi Cyfamod newydd.
Yn ôl traddodiad treuliodd ddyddiau olaf ei hoes mewn tŷ ger Effesus (de-orllewin Twrci) a bu farw yno.