Y Garn (Glyderau)
Oddi ar Wicipedia
Y Garn Glyderau |
|
---|---|
Llun | Y Garn o Lyn Idwal |
Uchder | 947m |
Gwlad | Cymru |
Mae Y Garn yn fynydd yn Eryri, ac ar y ffin rhwng Gwynedd a Sir Conwy. Mae'n un o nifer o fynyddoedd dros 3,000 o droedfeddi yn y Glyderau.
Y ffordd orau o gyrraedd y copa yw dilyn y llwybr o Lyn Ogwen at Lyn Idwal. Wedi mynd heibio Llyn Idwal mae'r llwybr yn dringo'n serth heibio'r Twll Du i gyrraedd tir gwastad ger Llyn y Cŵn. (Sylwer na ddylid ceisio dringo i fyny hafn y Twll Du heb raff.) Gellir troi i'r dde yma a dilyn llwybr sy'n arwain i gopa'r Garn. Gellir dringo'r mynydd o Pen-y-Pass hefyd.
Y pedwar copa ar ddeg |
---|
Yr Wyddfa a'i chriw: Yr Wyddfa (1085m) | Garnedd Ugain (1065m) | Crib Goch (923m) |
Y Glyderau: Elidir Fawr (924m) | Y Garn (947m) | Glyder Fawr (999m) | Glyder Fach (994m) | Tryfan (915m) | |
Y Carneddau: Pen yr Ole Wen (978m) | Carnedd Dafydd (1044m) | Carnedd Llywelyn (1064m) | Yr Elen (962m) | Foel Grach (976m) | Garnedd Uchaf (926m) | Foel-fras (942m) |