Y Goleuad
Oddi ar Wicipedia
Papur newydd y Methodistiaid Calfinaidd yw Y Goleuad.
Cafodd ei sefydlu yn 1869.
Gwyneddon oedd ei olygydd cyntaf ac mae golygyddion eraill y papur yn cynnwys enwau adnabyddus fel Ieuan Gwyllt, E. Morgan Humphreys, T.E. Jones, T. Lloyd Jones, G. Wynne Griffith, Harri Parri ac Elfed ap Nefydd Roberts.
Roedd y papur yn gadarn o blaid Dirwest ar droad yr 20fed ganrif a hyrwyddai Radicaliaeth gymhedrol.