Y Sblot
Oddi ar Wicipedia
Ardal yn ninas Caerdydd, prifddinas Cymru, yw Y Sblot neu Sblot.
[golygu] Yr enw
Daw'r enw o'r gair Hen Saesneg splott sy'n golygu 'darn o dir'. Arosai'r enw'n fyw ar lafar yn ne-orllewin Lloegr am glwt o dir ac mae'n digwydd mewn enwau lleoedd am gaeau a ffermydd yn yr ardal honno. Dichon i'r enw tarddu o gyfnod y Normaniaid. Ei ystyr yn syml felly yw 'clwt' neu 'dryll' o dir. Ceir manylion pellach yn llyfr Bedwyr Lewis Jones, Yn ei Elfen (Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst, 1992, t. 80).
[golygu] Ffuglen
- Siôn Eirian, Bob yn y Ddinas. Nofel am gymeriadau Sblot.
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.