Y Tafod
Oddi ar Wicipedia
Y Tafod yw cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mae'n cael ei gyhoeddi tua phedair gwaith y flwyddyn, i gyd-daro gyda digwyddiadau pwysig megis Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Eisteddfod yr Urdd, a'r Eisteddfod Genedlaethol.
Yr enw gwreiddiol oedd 'Tafod y Ddraig' a gyhoeddwyd (ac argraffwyd) gyntaf yn Hydref 1963 gan Owain Owain, y llenor a'r gwleidydd ymarferol. Dyma Gwilym Tudur yn trafod y dyddiau cynnar (allan o 'Wyt Ti'n Cofio...?') "Ei gymwynas fwyaf fu sefydlu Tafod y Ddraig, y ceir ei hanes rhyfeddol ganddo yn Tân a Daniwyd. Fe dyfodd mewn chwe mis o ddalen ddyblygedig 400 copi i gylchgrawn gloyw â chylchrediad o 2,500, gyda stamp newydd, miniog ar ei holl gynnwys".
[golygu] Cysylltiadau allanol
Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.