Y Waun, Caerdydd
Oddi ar Wicipedia
Ardal ar gyrion gogleddol dinas Caerdydd a gafodd ei hadeiladu yn y 1920au yw Y Mynydd Bychan (Saesneg The Heath). Enw gwreiddiol yr ardal yn Saesneg oedd 'The Great Heath'. Mae ganddi barc mawr yn ei chanol, gyda phwll a rheilffordd fach (sy'n cael ei rhedeg gan y CMES). Islaw iddi ceir 'The Little Heath' - neu yn Gymraeg, 'Y Waun Ddyfal' - sef yr ardal yng nghyffiniau'r Heol y Crwys presennol.