Ych
Oddi ar Wicipedia
Anifail gwrywaidd disbaddedig o deulu'r fuwch, o'r rhywogaeth Bos taurus sy'n cael ei gadw fel anifail gwaith, yn bennaf, neu ar gyfer ei gig, yw ych (ffurf luosog, ychen).
Am ganrifoedd lawer yr ych oedd yr anifail dewis ar gyfer aradu'r tir a gwaith fferm o bob math yng ngwledydd Ewrop, yn cynnwys Cymru. Cafodd ychen eu disodli'n raddol gan ceffylau gwedd yn y cyfnod modern. Mewn nifer o wledydd eraill, yn arbennig yn Asia, yr ych yw'r anifail dewis gan ffermwyr o hyd ar gyfer aradu a chludo.