Yr Oriel Genedlaethol, Llundain
Oddi ar Wicipedia
Yr Oriel Genedlaethol yn Sgwâr Trafalgar, Llundain yw oriel gelf genedlaethol y Deyrnas Gyfunol. Fe'i sefydlwyd ym 1824 pan prynodd y wladwriaeth Brydeinig 36 o beintiadau o gasgliad preifat John Julius Angerstein. Yn wahanol i nifer o orieli cenedlaethol eraill Ewrop, felly, nid yw'n seiliedig ar gyn-gasgliad brenhinol o gelf. Ceir yno 2,300 o beintiadau o orllewin Ewrop, yn cynnwys campweithiau o bob cyfnod o'r 13eg ganrif hyd ddiwedd y 19eg.