Ysglyfaethwr
Oddi ar Wicipedia
Carnivora | ||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
![]() |
||||||||||||||
Dosbarthiad gwyddonol | ||||||||||||||
|
||||||||||||||
Teuluoedd | ||||||||||||||
Canidae |
Mae mwy na 260 o rywogaethau o famal yn yr urdd Carnivora. Mae'r mwyafrif yn gigysol fel teulu'r gath ac yn bwyta cig yn bennaf. Eithriad yw'r panda anferth sy'n bwyta blagur a dail yn bennaf. Hollysyddion yw rhai rhywogaethau fel yr eirth a'r llwynogod.
Mae ffurf penglog a dannedd yr anifeiliaid hyn yn arbennig.
- Urdd CARNIVORA
- Is-urdd Fissipedia
- Teulu Canidae: cŵn; 35 rhywogaeth
- Teulu Procyonidae: racwniaid a pherthnasau; 15 rhywogaeth
- Teulu Ursidae: eirth, pandas; 9 rhywogaeth
- Teulu Mustelidae: ffured, brochod, dwrgwn a pherthnasau; 55 rhywogaeth
- Teulu Mephitidae drewgwn; 10 rhywogaeth
- Teulu Felidae: cathod; 37 rhywogaeth
- Teulu Viverridae: cathod mwsg; 35 rhywogaeth
- Teulu Herpestidae: mongwsiaid; 35 rhywogaeth
- Teulu Hyaenidae: udfilod; 4 rhywogaeth
- Is-urdd Pinnipedia
- Teulu Otariidae: morlewod a morloi manflewog; 14 rhywogaeth
- Teulu Odobenidae: morlo ysgithrog neu walrws; 1 rhywogaeth
- Teulu Phocidae: morloi; 19 rhywogaeth
- Is-urdd Fissipedia
Weithiau mae'r Pinnipedia'n cael eu dosbarthu mewn urdd wahanol.