Ysgol Coed-y-Gof
Oddi ar Wicipedia
Ysgol gynradd Gymraeg ym Mhentrebaen, Caerdydd ydy Ysgol Coed-y-Gof. Roedd 350 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2003, mae'r nifer hwn wedi disgyn yn gysod i 303 yn 2006, er hyn mae gan yr ysgol athro ychwanegol gan ddisgyn maint y dosbarthiadau o gyfartaledd o 20 i lawr i 17 disgybl i bob athro.[1] Dim on 1% o'r disgyblion ddaw o gartrefi lle nad yw Cymraeg yn brif iaith yr aelwyd.[2]
Arwyddair yr ygol yw Dyfal Donc a Dâl.[2]
Er i'r ysgol gael adroddiad ardderchog gan Estyn a'i disgrifiodd hi fel ysgol dda iawn yn 2004, yr un flwyddyn, daeth yr ysgol i lygaid y cyhoedd ar y newyddion oherwydd cyflwr gwael ei hadeiladau. Roedd dŵr yn gollwng o'r tô ac yn peryglu bywydau wrth ddodd mewn cyswllt â thrydan yn yn hen portacabin a'i chodwyd tua 1994 fel mesur dros dro.[3]