Ysgol Dyffryn Teifi
Oddi ar Wicipedia
Ysgol gyfun dwyieithog Cymraeg a Saesneg yn Llandysul, Ceredigion ydy Ysgol Dyffryn Teifi, adnabyddwyd gynt fel Ysgol Ramadeg Dyffryn Teifi neu Ysgol Ramadeg Llandysul. Sefydlwyd yr ysgol ar y safle presenol yn 1984 yn dilyn ad-drefninat addysg uwchradd yn Nyffryn Teifi. [1] Mae hanes yr Ysgol Ramadeg gynt yn dyddio'n nôl i'r 19eg ganrif.
Roedd 570 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2001, daeth tua 78% o'r disgybion o gartefi lle mae'r Gymraeg yn brif iaith.[1]
Ymysg cyn-ddisgyblion yr ysgol mae'r llenorion T. Llew Jones, Joshua Gerwyn Elias, Aled Gwyn Jones a nifer o ddynion crefydd megis John Ceredig Evans a John Bowen Jones.
[golygu] Dolenni Allanol
- Gwefan swyddogol yr ysgol
- Atgofion Ysgol Ramadeg Dyffryn Teifi - David Milwyn Evans, Gwefan BBC Cymru
[golygu] Ffynonellau
- ↑ 1.0 1.1 Adroddiad yr Ysgol, 15-18 Hydref 2001. Estyn (17 Thagfyr 2001).