Ysgubor-y-coed
Oddi ar Wicipedia
Cymuned yng ngogledd Ceredigion yw Ysgubor-y-coed. Saif o gwmpas glan ddeheuol Afon Dyfi, yn y rhan fwyaf gogleddol o Geredigion.
Mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Ffwrnais, Glandyfi ac Eglwys-fach. Ceir gweddillion castell mwnt a beili Domen Las ar lan Afon Dyfi, castell o godwyd gan Rhys ap Gruffudd yn y 12fed ganrif. Yn y gymuned hefyd mae Gwarchodfa adar Ynys-hir, sy'n eiddo i'r RSPB. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 293.