Z (ffilm)
Oddi ar Wicipedia
Ffilm Ffrangeg gan y cyfarwyddwr o Roegwr Costa-Gavras yw Z (1969).
Ffilm iasoer wleidyddol yw hi. Mae'n ffilm sy'n cyfuno dulliau realaethyddol, newyddiadurol ac arddull aflonydd y cinema verité. Mae'n serennu Yves Montand fel y gwleidydd Gregoris Lambrakis sy'n cael ei asasineiddio er mwyn cael coup fel adwaith i hynny ac yn seiledig ar ddigwyddiadau cyfoes gyda chyfeiriadau at y cynllwyn i lofruddio Charles de Gaulle a coup'r cyrnelau yng Ngwlad Groeg. Enillodd Oscar am y ffilm orau mewn iaith dramor.
Er iddi gael ei beirniadau gan rai beirniaid am fod â gormod o ddeialog ynddi mae'n aros yn ffilm rymus gyda diweddglo cofiadwy iawn.