Zog, Brenin Albania
Oddi ar Wicipedia
Roedd Zog, enw bedydd Ahmed Beg Zogu (1895 - 1961), yn frenin ar Albania o 1928 hyd 1939.
Cafodd Zog ei ddatgan yn frenin ar ôl bod yn brifweinidog ei wlad rhwng 1922 a 1924 a'i harlywydd rhwng 1925 a 1928.
Yn ystod ei deyrnasiad gadawodd i Albania syrthio dan ddominyddiaeth economaidd yr Eidal. Pan oresgynwyd y wlad gan Mussolini yn 1939 ffoes Zog i alltudiaeth.