Afon Ljubljanica
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Afon sy'n llifo drwy Slofenia yw Afon Ljubljanica. Saif prifddinas y wlad, Ljubljana, ar ei rhannau isaf. Mae'n ymestyn 41km o'i ffynhonell ger Pivka yn ne-orllewin Slofenia hyd ei haber ag Afon Sava, tua 10km i'r dwyrain o Ljubljana. Mae tua 20km o'i hyd yn gorwedd o dan y ddaear mewn ogofau. Adnabyddir yr afon hefyd ar ddarnau o'i hyd fel Afon Trbuhovica, Afon Obrh, Afon Stržen, Afon Rak, Afon Pivka ac Afon Unica. Mae'r enw Ljubljanica yn tarddu o enw'r brifddinas.