Afon Teifi
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae Afon Teifi yn afon yng nghanolbarth Cymru sy'n llifo i Fae Ceredigion gerllaw Aberteifi
Mae Afon Teifi yn tarddu yn Llyn Teifi yn rhan ogleddol Ceredigion, i'r dwyrain o bentref Fair-rhos. Wedi llifo tua'r gorllewin heibio Abaty Ystrad Fflur mae'n cyrraedd pentref Pontrhydfendigaid ac yna yn troi tua'r de-orllewin a llifo trwy Gors Goch Glan Teifi, a adwaenir hefyd fel Cors Caron. Yn fuan wedyn mae'n llifo trwy dref Tregaron ac yna'n parhau tua'r de-orllewin gan fynd heibio Llanddewi Brefi, lle mae Afon Brefi yn ymuno â hi, Llanfair Clydogau, Cwmann, Llanbedr Pont Steffan a Llanybydder. Ychydig cyn cyrraedd Llandysul mae Afon Cletwr yn ymuno â hi, yna mae'n llifo trwy Castell Newydd Emlyn, Cenarth ac ger Abercych mae'r Afon Cych yn ymuno â hi. Wedyn â heibio Cilgerran a Llechryd cyn cyrraedd y môr islaw Aberteifi. Gellir gweld effaith y llanw cyn uched a Llechryd.
Un o nodweddion Afon Teifi yw'r traddodiad o bysgota, am Eog yn bennaf, gan ddefnyddio cwrwgl yn y rhannau o amgylch Cenarth. Mae'r afon hefyd yn cynnig pysgota da gyda'r enwair.