Andromeda (galaeth)
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Mae galaeth Andromeda yn un o alaethau cymdogol ein galaeth ni (y Llwybr Llaethog), wedi'i leoli yng nghytser Andromeda sydd i'w weld yn hemisffer y Gogledd ger gytser Cassiopeia. Andromeda yw'r galaeth mwyaf yn y Grŵp Lleol (y galaethau agosaf i ni). Mae'n rhif 39 (M39) yng Nghatalog Messier. Y seren ddisgleiriaf yng nghytser Andromeda yw'r seren ail-faint Alpheratz; mae'r galaeth Andromeda yn gorwedd yn agos iddi yn awyr y nos.
Enwir Andromeda ar ôl y dduwies Roeg Andromeda, merch Cepheus brenin Ethiopia gan Cassiope.
Yn y llun cyfansawdd uchod gwelir y gyferbyniaeth rhwng y tonnau llwch afreolaidd (coch) o gwmpas y sêr ifanc yn y galaeth a'r môr o sêr hŷn (glas), sydd mwy llonydd a rheolaidd. Mae Andromeda yn alaeth troellog ac yn nodweddiadol o'r dosbarth hwnnw; mae'r canol yn llawn o sêr tra bod y breichiau yn feithrinfeydd i sêr newydd. Mae llun isgoch yn ein galluogi i weld yn glir i ganol y galaeth, a guddir gan olau'r sêr llachar fel arall.