Asparukh
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Teyrn y Proto-Bwlgariaid yn ail hanner y seithfed ganrif oedd Asparukh (tua 641 – tua 702). Credir iddo sefydlu Teyrnas Gyntaf Bwlgaria yn 681. Ar ôl i'r Khazariaid ei yrru allan o ardal gorllewin Wcráin, daeth Asparukh â llu o Broto-Fwlgariaid dros y Donwy ym mlynyddoedd cynnar yr 670au, gan anheddu de Bessarabia neu gogledd Dobrudzha. Mewn cynghrair â llwythi Slafonaidd lleol, trechodd luoedd Ymerodraeth Byzantium o dan Cystennin IV yn 680. Gwthiodd y Bwlgariaid a'r Slafiaid ymlaen i gipio Moesia. Roedd y Byzantiaid yn gorfod gofyn am delerau heddwch yn 681, gan dalu teyrnged blynyddol. Mae haneswyr yn tueddu i weld yn hyn cydnabyddiaeth Teyrnas Gyntaf Bwlgaria, gwladwriaeth newydd â phoblogaeth lethol Slafonaidd â dosbarthiad llywodraethol Proto-Bwlgaraidd (Tyrcig).
Khaniaid, tsariaid, tywysogion a brenhinoedd Bwlgaria |
Ail deyrnas Trydedd deyrnas |