Augustus John
Oddi wrth Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd.
Arlunydd o Ddinbych-y-Pysgod oedd Augustus John (4 Ionawr, 1878 - 31 Hydref, 1961), ac yr oedd yn frawd i Gwen John. O ganlyniad i ddylanwad James Dickson Innes o Lanelli aeth ar daith arlunio i ogledd Cymru, a daeth i sylweddoli posibiliadau paentio tirwedd panoramig y wlad. Aeth ymlaen yn ddiweddarach, wedi marwolaeth Innes, i baentio portreadau. Mae'r portreadau yn arwyddocaol yn arbennig oherwydd ei fod yn rhoi bywyd a chymeriad i'r gwrthrychau.
Ei wraig gyntaf oedd Ida Nettleship (1877-1907), a'i ail wraig oedd Dorothy "Dorelia" McNeill. Roedd Evelyn St. Croix Rose Fleming yn gariad iddo ac Amaryllis Fleming yn ferch anghyfreithlon iddo.